Logo Website Welsh V2

Comisiwn Profedigaeth Y Deyrnas Unedig


Arolwg Unigolion

 Mae'r arolwg hwn wedi'i gynllunio i ddeall profiadau pobl a theuluoedd mewn profedigaeth yn well, a sut y gallwn wella'r cymorth sydd ar gael iddynt.   Bydd eich ymatebion yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn cynrychioli blaenoriaethau allweddol y rhai sydd wedi cael profedigaeth, a'r rhai sy'n gweithio neu'n cefnogi pobl mewn profedigaeth, yn gywir. 

 Mae'r arolwg hwn yn agored i bobl 18 oed neu hŷn sydd wedi cael profedigaeth yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Mae'r arolwg yn gofyn cwestiynau ynglŷn â:

  • eich profiad chi o brofedigaeth
  • eich barn a'ch awgrymiadau ynglŷn â
    • materion ymarferol ar ôl marwolaeth
    • dod o hyd i gymorth profedigaeth
    • effaith y pandemig
    • cymorth gan eich cymuned
    • unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu
  • rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi (cwestiynau demograffig i'n helpu i ddeall pwy sydd wedi ymateb i'r arolwg)

Os ydych yn cefnogi rhywun arall i ateb yr arolwg hwn, llenwch yr atebion gyda'u hymatebion, gan gynnwys y cwestiynau demograffig ar y diwedd.

Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn. Weithiau bydd eich ateb i gwestiwn yn eich annog i symud ymhellach drwy'r arolwg. Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn rydych yn cydsynio y gellir dyfynnu eich ymatebion yn ddienw mewn adroddiadau cyhoeddus.

Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chyfuno, ac ni fydd unrhyw unigolyn yn cael ei nodi mewn unrhyw adroddiad na chyhoeddiad. Dim ond ar gyfer dadansoddi y bydd y wybodaeth a'r safbwyntiau a rannwch gyda ni yn cael eu defnyddio, a bydd data nad yw'n adnabyddadwy yn cael ei ddefnyddio mewn argymhellion, adroddiadau, cyflwyniadau cynhadledd a phapurau ymchwil. Efallai y byddwn yn rhannu data dienw gydag ymchwilwyr eraill yn y dyfodol, ond ni fyddwch yn cael eich adnabod yn y setiau data hyn. Darganfyddwch ragor o Gwestiynau Cyffredin.

Mae'r arolwg hwn ar gyfer pobl sydd wedi profi profedigaeth yn ystod y tair blynedd diwethaf.


Cyflwyniad arolwg cymraeg

Dewisiwch ffeil